Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Dr Hughes (Cyfanswm: 141)

 
(1, 0) 440 Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd?
 
(1, 0) 453 Does gen i ond eisio galw mewn un lle.
(1, 0) 454 Mi ddo i yn ôl wedyn.
 
(1, 0) 458 Ddim o gwbwl.
 
(1, 0) 460 Can croeso.
 
(1, 0) 465 Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl?
 
(1, 0) 469 Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm...
 
(1, 0) 471 Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry.
 
(1, 0) 474 A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i.
 
(1, 0) 476 Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd.
 
(1, 0) 480 Allech chi ddim cyflogi clarc?
(1, 0) 481 Dyn felly?
 
(1, 0) 484 Ond os ydy'ch gwraig...?
(1, 0) 485 Meddyliwch am funud am y gwendid mae hi ynddo fo.
(1, 0) 486 Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi?
 
(1, 0) 490 Neb arall?
 
(1, 0) 494 Yn awr, gwrandewch arna' i Mr Morris annwyl.
(1, 0) 495 Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig?
 
(1, 0) 497 Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'.
 
(1, 0) 500 D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma.
 
(1, 0) 503 Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma?
 
(1, 0) 506 Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim?
 
(1, 0) 509 Dim math o reswm?
 
(1, 0) 511 Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes.
 
(1, 0) 513 A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd?
 
(1, 0) 515 Ond ynglŷn â Miss Parry.
(1, 0) 516 Does dim byd felly yn ei hachos hi?
 
(1, 0) 518 Ond o'i hochor hi?
 
(1, 0) 520 Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi.
 
(1, 0) 523 Aha.
(1, 0) 524 Dyna ni!
 
(1, 0) 527 Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd.
 
(1, 0) 530 Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny.
 
(1, 0) 536 Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma?
 
(1, 0) 541 Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir.
 
(1, 0) 545 Ond mae o wedi aros efo chi er hynny.
 
(1, 0) 551 Syniad campus.
 
(1, 0) 556 O, ac wedi hynny?
 
(1, 0) 558 Trefniant, ynghylch be'?
 
(1, 0) 561 Roedd hynny'n od iawn.
 
(1, 0) 565 Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny?
 
(1, 0) 569 Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'.
 
(1, 0) 574 Hm.
(1, 0) 575 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro.
 
(1, 0) 579 Na, cheisia' i ddim g'neud hynny.
 
(1, 0) 587 Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig?
 
(1, 0) 589 Pam ar y ddaear na newch chi ynte'?
 
(1, 0) 591 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl.
 
(1, 0) 593 I'ch gwraig?
 
(1, 0) 597 Nâc ydw.
(1, 0) 598 Y nefoedd a ŵyr.
(1, 0) 599 Dydw i ddim yn gweld o gwbwl...
 
(1, 0) 607 Eich tynnu chi allan?
(1, 0) 608 Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris.
 
(1, 0) 611 Be' ydych chi'n ei weld?
 
(1, 0) 614 Fy mod i?
(1, 0) 615 A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny?
 
(1, 0) 619 A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi?
 
(1, 0) 622 Yn sâl?
(1, 0) 623 Chi?
(1, 0) 624 Ddar'u hi erioed gymaint ag awgrymu'r fath beth wrtha i.
(1, 0) 625 Be' all fod o'i le arnoch chi, gyfaill annwyl?
 
(1, 0) 630 O, chwarae teg Isaac Morris annwyl...
 
(1, 0) 637 Isaac Morris, wnes i erioed ddychmygu'r fath beth.
 
(1, 0) 641 Naddo erioed.
(1, 0) 642 A 'naeth eich gwraig ddim chwaith rydw i'n berffaith siŵr.
(1, 0) 643 Mi awn ar fy llw.
 
(1, 0) 646 Dowch rŵan.
(1, 0) 647 Mae'n rhaid i mi dd'eud...
 
(1, 0) 653 Wel?
 
(1, 0) 655 Be' wedyn?
 
(1, 0) 657 Nid camsyniad ydy hynny siŵr?
 
(1, 0) 663 Yn hollol.
(1, 0) 664 I bob golwg rydych chi wedi bod yn ffodus tu hwnt, rhaid i mi dd'eud.
 
(1, 0) 668 Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi.
(1, 0) 669 Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi.
 
(1, 0) 671 Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod.
 
(1, 0) 673 Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi.
 
(1, 0) 675 Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi.
(1, 0) 676 Mi ddechreusoch chi yn hogyn tlawd mewn pentref gwledig ond erbyn heddiw chi ydy prif adeiladwr y lle yma.
(1, 0) 677 Ydy wir, mae ffawd wedi bod o'ch plaid chi, yn ddi-os.
 
(1, 0) 680 Ofn?
(1, 0) 681 Am fod ffawd o'ch plaid chi?
 
(1, 0) 684 Twt lol.
(1, 0) 685 Be' allai beri i'ch lwc chi droi?
 
(1, 0) 688 Y genhedlaeth newydd, twt.
(1, 0) 689 'Dydych chi ddim yn mynd i lawr yr allt eisoes gobeithio.
(1, 0) 690 Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod.
 
(1, 0) 698 Wel diar annwyl, os dôn nhw?
 
(1, 0) 703 Mae rhywun yn curo.
 
(1, 0) 720 Ond rydw i'n eich cofio chi, 'ngeneth annwyl i.
 
(1, 0) 723 Ie, wrth gwrs.
 
(1, 0) 725 Mi ddar'u ni gyfarfod mewn gwesty yn y mynyddoedd yr ha' d'waetha'.
(1, 0) 726 Be' ddaeth o'r merched eraill?
 
(1, 0) 728 Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'...
 
(1, 0) 731 A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni.
 
(1, 0) 734 Cytuno'n hollol.
 
(1, 0) 737 Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly?
 
(1, 0) 756 Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly?
 
(1, 0) 781 Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion.
 
(1, 0) 785 O mi 'na' i hynny gellwch fod yn berffaith siŵr.
 
(1, 0) 787 Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris.
 
(1, 0) 789 Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi.
 
(1, 0) 793 Ie, gwahanol iawn.
(1, 0) 794 Does dim gwadu hynny.
 
(1, 0) 1261 Helo.
(1, 0) 1262 Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd?
 
(1, 0) 1265 Ydych chi wir?
 
(3, 0) 2600 Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris?
 
(3, 0) 2602 Ydy mae hi.
(3, 0) 2603 Ond ydy popeth yn iawn yma?
(3, 0) 2604 Mi ges i neges ffôn gennych chi.
 
(3, 0) 2607 O'r gora'.
(3, 0) 2608 Fyddai'n well i ni fynd i'r tŷ?
 
(3, 0) 2610 Yn eich dillad mynydda o hyd, Miss O'Reilly?
 
(3, 0) 2616 Be gawn ni weld?
 
(3, 0) 2630 Amdano fo?
 
(3, 0) 3028 Ydy o'n dod yn o fuan?
 
(3, 0) 3031 F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris?
 
(3, 0) 3034 Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi.
 
(3, 0) 3036 Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni.
 
(3, 0) 3039 Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto?
 
(3, 0) 3044 A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni.
 
(3, 0) 3051 Dyma fo, mae o'n dod.
 
(3, 0) 3054 Peidiwch â sôn wrtho fo 'mod i yma.
 
(3, 0) 3256 Mi welwch mod i'n iawn.
(3, 0) 3257 Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion.
 
(3, 0) 3264 Ie wir, Miss O'Reilly.
(3, 0) 3265 Rydych chi'n gwybod sut i ddal eich gafael yn rhywun pan rowch chi'ch meddwl ar hynny.
 
(3, 0) 3298 Edrychwch.
(3, 0) 3299 Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol.
 
(3, 0) 3312 Hsht, hsht.
(3, 0) 3313 Peidiwch â gweiddi arno fo.
 
(3, 0) 3318 Peidiwch â symud.
(3, 0) 3319 Yr un ohonoch chi.
(3, 0) 3320 Dim smic.
 
(3, 0) 3333 Gwell i chi beidio edrych.
 
(3, 0) 3337 Neb i symud.
(3, 0) 3338 Ydych chi'n clywed?
 
(3, 0) 3371 Peidiwch.
(3, 0) 3372 Yn enw'r nefoedd, peidiwch...